Mae papur gwyn diweddar y Llywodraeth yn argymell newidiadau i berchnogion tai o ran yr 'Hawliau Datblygu a Ganiateir'.
Gall estyniadau yn y to, a ganiateir ar hyn o bryd dan Ddatblygiadau a Ganiateir, fod yn amhosibl yn y dyfodol.
P'un ai ydych yn ceisio trawsnewid croglofft ar hyn o bryd ai peidio, bydd yn eithriadol o anodd i chi gael caniatâd i drawsnewid croglofft pan ddaw'r ddeddfwriaeth newydd i rym. Gall yr argymhellion newydd hyn ddod i rym o fewn blwyddyn. Gyda hyn mewn golwg, dylech fod yn gofyn am ganiatâd cynllunio neu dystysgrif cyfreithlonrwydd ar gyfer eich eiddon awr.
Ar ôl i chi gael caniatâd cynllunio neu dystysgrif cyfreithlonrwydd, bydd gennych bum mlynedd i wneud y gwaith. Fel arall, hwyrach eich bod yn awyddus i werthu eiddo â chaniatâd cynllunio eisoes yn bodoli - fydd yn ychwanegu'n sylweddol at werth eich eiddo.
Mae adran dechnegol Gallery Loft, Galtec, bellach yn cynnig gwasanaeth unigryw. Gallwn gael caniatâd cynllunio i drawsnewid eich croglofft trwy fanteisio ar y sefyllfa bresennol.
A fyddech chi cystal â chysylltu â ni i gael mwy o wybodaeth - cofiwch fod yr amser yn brin!
CSS2 XHTML © 2006 think interactive ltd.






