C. Alla i gael amcan o bris am ddim?
A. CEWCH - yr unig beth sydd ei angen yw i ni ymweld â'ch ty i gael mesuriadau cychwynnol o ofod y groglofft sydd yno eisoes er mwyn penderfynu a fydd trawsnewid yn bosibl. A fyddech chi cystal â chysylltu â'n swyddfa trwy e-bost (gallerylofts@fsmail.net) neu ffonio: 01685 881555 i ofyn am ymweliad gwerthu a gallwn drefnu apwyntiad priodol gyda phleser.
C. Pryd gawn ni'r amcan o bris?
A. Byddwn yn anfon amcan manwl o bris ynghyd â llun o gynllun y llawr fydd yn rhoi syniad i chi o'r hyn y gellir ei wneud â gofod eich croglofft. Byddwch yn derbyn yr amcan o bris o fewn pum niwrnod gwaith i ddyddiad yr ymweliad gwerthu.
C. Sut fydda i'n gwybod a yw fy nhy’n addas ar gyfer trawsnewid?
A. Yr hyn sy'n dyngedfennol o ran gwybod a yw eich ty’n addas ar gyfer trawsnewid yw uchder y cliriad pen yn eich croglofft bresennol. I gydymffurfio â'r Rheoliadau Adeiladu, mae'n rhaid wrth gliriad pen o ddau fetr o leiaf yn y man uchaf yn eich croglofft. Yn ddelfrydol, dylech fesur yr uchder hwn sy'n ofynnol yn y rheoliadau cyn trefnu ymweliad gwerthu.
C: Nid yw uchder y cliriad pen yn fy nghroglofft yn ddigonol. A oes modd trawsnewid?
A: OES - os yw'ch ty yn dy ar wahân. Mae gan Gallery brofiad helaeth o ail-drysio toeau modern. Gallwn godi pig y to er mwyn creu digon o uchder ar gyfer eich gofod byw newydd. A fyddech chi cystal ag edrych ar ein manylion ail-drysio ar ein tudalen gartref neu cysylltwch â swyddfa Gallery i gael mwy o wybodaeth.
C: Sut alla i fod yn siwr bod y cynllun yn ateb fy ngofynion?
A: Eich cyswllt cyntaf fydd ein Cyfarwyddwr Gwerthu, Gareth Edwards. Bydd ef yn eich cynorthwyo i ymgorffori unrhyw ofynion penodol sydd gennych mewn cynllun fydd yn sicrhau eich bod yn elwa i'r eithaf o'r gofod byw ychwanegol. Gwnawn bob ymdrech i ddylunio cynlluniau sy'n cydweddu â chymeriad eich adeilad presennol.
C: A oes modd i mi weld trawsnewidiad croglofft sydd wedi'i gwblhau?
A: OES - Bydd Gallery wrth ei fod yn dangos un o'r amryw o drawsnewidiadau a gyflawnwyd yn eich ardal yn ddiweddar. Fel arall, beth am edrych ar un o'n gwibdeithiau rhithwir?
C: Pa fath o risiau fyddwch chi'n eu defnyddio?
A: Yn Gallery Lofts mae gennym ein gweithdy saer ein hunain felly ni ddylid bod unrhyw anhawster gyda chynllunio nac adeiladu eich grisiau chi. Bydd ein dylunwyr yn trafod yr opsiynau gorau ar gyfer eich prosiect. Byddwn yn cymryd y gofal mwyaf i gydymffurfio â rheoliadau presennol.
C: Beth am y llawr?
A: Byddwn yn defnyddio llawr cwbl annibynnol wedi'i wneud o drawstiau dur. Bydd ein peirianwyr yn mesur manylion yr asio ar gyfer ein hadran reoli adeiladwaith. Gallem gynnwys cawell masg a blanced dân os bydd y swyddog rheoli adeiladwaith yn mynnu hynny. Yn Gallery defnyddiwn ynysu tri-iso sy'n glynu wrth y ceibrenni, wedi'i stribedu ac yna'i fyrddio. Mae hyn yn rhoi'r insiwleiddio a'r awyru priodol.
C: Beth am reoliadau tân?
A: Mae rheoliadau tân yn berthnasol i drawsnewidiadau sy'n darparu llety cyfanheddol ar ail lawr. Byddwn hefyd yn gosod larymau tân cyd-gysylltiedig wedi'u gwifro i'r prif gyflenwad a chaeyddion drysau ar bob ystafell gyfanheddol.
C: Beth am y trydan.
A: Mae gan ystafell wely safonol mewn croglofft 4 X soced dwbl , 4 X golau. Bydd ein tîm dylunio'n ceisio cwrdd â'ch holl ofynion penodol ar y safle.
C: Pa fath o blymio y gallaf ei ddisgwyl?
A: Yn Gallery, bydd ystafell wely safonol mewn croglofft yn cynnwys rheiddiadur wedi'i gysylltu â'ch system wresogi bresennol. Pan na fydd gennych fwyler cyfun, efallai bydd problem yn codi gyda phwysau'r dwr. Ar hyn o bryd mae Gallery'n gosod bwyleri mewn 70% o'n trawsnewidiadau. Mae ein prisiau 30% yn is na Nwy Prydain ac yn gystadleuol oherwydd bod y plymwyr eisoes ar y safle.
C: Mae storio'n wirioneddol bwysig i ni. Beth mae Gallery'n ei gynnig?
A: Anelwn at fwyhau'r gofod y gellir ei newid yn eich croglofft trwy gynnwys cypyrddau a wardrobau. Byddwn yn cynllunio gofod storio'n benodol ar gyfer dimensiynau unigol eich ystafelloedd newydd.
C: Pam ddylwn i ddewis Gallery i drawsnewid fy nghroglofft?
A: Mae gan Gallery fwy na 18 mlynedd o brofiad yn y farchnad hon - sy'n golygu bod y cwmni wedi trawsnewid dros fil o groglofftau. Mae'r profiad anfesuradwy hwn yn ein galluogi i enwi Gallery fel 'Prif Gwmni Croglofftau Cymru'. Ymfalchïwn yn ein timau o grefftwyr ymroddedig, gan i ni ddethol y crefftwyr hynny sy'n gwbl ymroddedig i bob prosiect yn unig. Os am fwy o dawelwch meddwl, cofiwch fod Gallery'n aelod o'r Ffederasiwn Meistri Adeiladu.
CSS2 XHTML © 2006 think interactive ltd.






